Annwyl Alun
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17
Hoffwn eich gwahodd i gyfarfod o'r Pwyllgor ddydd Mercher 2 Tachwedd 2016 i roi tystiolaeth mewn cysylltiad â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.
Disgwylir i'r sesiwn dystiolaeth gymryd awr, gan ddechrau am 11.00. Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu papur dwyieithog i'r Pwyllgor ynglŷn â'r gyllideb ddrafft erbyn 12 Hydref 2016. Byddai'r Pwyllgor yn arbennig o ddiolchgar o gael gwybodaeth am y materion cyllidebol a amlygir yn yr atodiad i'r llythyr hwn.
Yn gywir
Bethan Jenkins AC
Cadeirydd
Atodiad
Cais am wybodaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes er mwyn cynorthwyo Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i graffu ar Gyllideb Ddrafft 2017-18
Craffu ar y gyllideb ddrafft o safbwynt yr iaith Gymraeg
Mae dyraniadau cyllid penodol ar gyfer y Gymraeg yn y gyllideb ddrafft yn dod o fewn y Prif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau. Hoffem eich gwahodd chi, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, i ymddangos gerbron y Pwyllgor i drafod cyllideb ddrafft 2017-18 yn y cyd-destun hwn.
Yn ogystal â chraffu ar y dyraniadau yn y gyllideb ddrafft sydd â'r nod penodol o hyrwyddo'r iaith Gymraeg, mae'r Pwyllgor yn bwriadu ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru wedi asesu effaith ehangach dyraniadau'r gyllideb ddrafft ar yr iaith.
Yn hynny o beth, byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar i gael y
wybodaeth a ganlyn ar ffurf tystiolaeth ysgrifenedig.
Cyflwyniad y gyllideb
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi croesawu'r gwelliannau a wnaed i'r dull o gyflwyno'r gyllideb yn y blynyddoedd diwethaf, ac wedi argymell y dylai'r gwaith barhau er mwyn sicrhau ei bod yn fwy eglur fyth sut mae dyraniadau'r gyllideb yn cyd-fynd â blaenoriaethau ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru.
Fel y llynedd, hoffai'r Pwyllgor gael y llinellau gwariant unigol sy'n berthnasol i'r Pwyllgor hwn, ar gyfer eich portffolio chi.
Dylem nodi ein bod yn ymwybodol bod y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg wedi gofyn am wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Addysg am ddarpariaeth yn y gyllideb i gefnogi'r broses o
weithredu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru a
Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol. Fodd
bynnag, er mwyn hybu tryloywder, byddem ninnau hefyd yn croesawu'r
wybodaeth hon er mwyn cael rhywfaint o gyd-destun o ran sut y mae
cyllid i hybu'r Gymraeg wedi cael ei ddyrannu yn ei
gyfanrwydd.
Blaenoriaethau ac ymrwymiadau Llywodraeth
Cymru
O ran blaenoriaethau ac ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael y wybodaeth a ganlyn:
Polisïau allweddol
Byddai'r Pwyllgor yn arbennig yn dymuno cael gwybodaeth am y canlynol:
· beth yw'r berthynas rhwng dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft a gweithrediad y strategaeth Iaith Fyw: Iaith Byw a'r ddogfen wedi'i diweddaru, Bwrw Mlaen, gan gynnwys gwybodaeth am sut y mae'r dyraniadau ar gyfer 2017-18 yn cysylltu â'r strategaethau hynny o ran targedau, canlyniadau a gyflawnwyd hyd yma a'r canlyniadau a fwriedir yn y dyfodol;
· i ba raddau yr ydych yn gallu nodi faint o arian a ddefnyddir i gefnogi neu amddiffyn y Gymraeg ar draws pob portffolio (gan gynnwys mewn cyllidebau nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r iaith Gymraeg), a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd tuag at allu darparu'r wybodaeth hon;
· sut mae'r broses barhaus o roi Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ar waith wedi dylanwadu ar ddyraniadau'r gyllideb ddrafft, gan gynnwys dyraniadau cyllid ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg a'r sail a ddefnyddir i benderfynu ar y rhain;
· beth yw'r berthynas rhwng dyraniadau'r gyllideb ddrafft a gweithrediad y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys gwybodaeth am sut y mae hyn yn cysylltu â thargedau, canlyniadau a gyflawnwyd hyd yma a'r canlyniadau a fwriedir.